Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 9 Chwefror 2015 |
|
||||
Amser: |
13.00 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(4)2015(3) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd) Peter Black AC Angela Burns AC Sandy Mewies AC Rhodri Glyn Thomas AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Kevin Tumelty, Pennaeth Diogelwch, Pennaeth Diogelwch
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
Jon Stratford, Assistant Chief Constable, Heddlu De Cymru Josh Jones, Chief Superintendent, Heddlu De Cymru Simon Rees, Wales Counter Terrorism Unit Yr Arolygydd Ian Mackenzie, Heddlu De Cymru
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Roedd y Dirprwy Lywydd wedi ymddiheuro.
1.2 Datgan buddiannau
Nid oedd buddiannau i’w datgan.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr yn gywir.
2 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch
Rhoddodd Simon Rees gyflwyniad ar ddiogelwch i’r Comisiwn ac roedd tua 300 o staff y Cynulliad wedi’i weld yr wythnos gynt. Paratowyd canllawiau ychwanegol i gyd-fynd â’r fideo a’r cyflwyniad. Roedd y Comisiynwyr yn awyddus i sicrhau bod pawb a oedd yn gweithio yn ein hadeiladau’n cael gwybodaeth ddigonol am y mater. Cadarnhawyd bod cynlluniau’n cael eu paratoi i’r Aelodau, grwpiau plaid a staff cymorth weld y fideo a’r canllawiau cyn gynted â phosibl dros yr wythnosau nesaf.
Yn dilyn y cyfarfod ar 29 Ionawr, cafwyd rhagor o wybodaeth gan Heddlu De Cymru am sicrhau diogelwch yr ystâd. Trafododd y Comisiwn y rhain. Cytunodd y Comisiynwyr y dylid bwrw ymlaen â’r gwaith o gryfhau diogelwch ar unwaith a chytunwyd ar gynllun cyfathrebu â’r heddlu.
Gofynnodd y Comisiynwyr am bapur llawnach ar faterion diogelwch, gan gynnwys archwilio cefndir unigolion, a chaiff hwn ei gyflwyno yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Ebrill.
3 Ymgysylltu â phobl Cymru
Ystyriodd y Comisiwn bapur yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ymgysylltu â cyhoedd. Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod bod cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo ym mhob rhan o’r Comisiwn, er y byddai’n anodd sicrhau bod y rhaglen weithgareddau uchelgeisiol yn cael ei chwblhau cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad. Roedd y Comisiynwyr yn falch o glywed am enghreifftiau o weithgareddau arloesol, fel y gwaith o hyrwyddo ein pwyllgorau, sy’n destun cenfigen ymhlith cyrff seneddol eraill. Cytunwyd y dylai unrhyw wybodaeth yn y cyswllt hwn yn y dyfodol gynnwys dadansoddiad manwl sy'n ategu’r safbwynt hwn.
Gan nodi bod y cyfryngau hyperleol a chymdeithasol yn ddatblygiadau pwysig a’u bod yn rhan o becyn gyfathrebu ehangach i geisio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a thraddodiadol, cytunodd y Comisiynwyr y dylai eu hadroddiad blynyddol ddangos pa mor bellgyrhaeddol ac effeithiol oedd y rhain a gweithgareddau ymgysylltu eraill.
Cytunodd y Comisiwn fod y cyfeiriad a’r blaenoriaethau strategol a nodwyd ar gyfer y gwaith ymgysylltu yn briodol ac roeddent yn fodlon â’r manylion a gafwyd yn y papur am y gweithgareddau y bwriadwyd eu cyflwyno cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad.
4 Unrhyw fater arall
Dim.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Coimsiwn ddydd Iau, 5 Mawrth 2015, pan fydd y Comisiynwyr yn canolbwyntio ar y paratoadau ar gyfer y Pumed Cynulliad.